Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
12 Hydref 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12455
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1-4 a 6-9. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.29
3 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Cynnydd ar y Cynllun Cyflawni ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’
Dechreuodd yr eitem am 14.45
4 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cefnogi lles meddwl mewn addysg
Dechreuodd yr eitem am 15.30
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.59 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.
5 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Natur, bioamrywiaeth a lleoedd lleol ar gyfer natur
Dechreuodd yr eitem am 16.08
6 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19
Dechreuodd yr eitem am 16.59
7 Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021
Dechreuodd yr eitem am 17.32
NDM7796 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Medi 2021.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8 Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2020-21
Dechreuodd yr eitem am 17.36
NDM7797 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2020-21.
Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2020-21
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9 Cyfnod pleidleisio
Nid oedd Cyfnod Pleidleisio.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.16
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 13 Hydref 2021